P-05-850 Amddiffyn Gwastatir Gwent ac atal traffordd arfaethedig yr M4

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan CALM (Campaign Against the Levels Motorway). Mae'r ddeiseb wedi casglu 12,270 o lofnodion ar wefan e- ddeiseb arall.

Geiriad y ddeiseb

​​​ Rhowch y gorau i’r cynlluniau i adeiladu traffordd yr M4 ar draws harddwch Gwastatir Gwent a buddsoddwch mewn trafnidiaeth gyhoeddus yn lle hynny.

 

Pam mae hyn yn bwysig?

 

Bydd y cynlluniau presennol i ymestyn traffordd yr M4 yn peryglu dyfrgwn, gwenyn prin a blodau gwyllt. Byddai’n torri ar draws fersiwn Cymru o 'Goedwig Law Amazon', Gwastatir Gwent, sy’n hafan i fywyd gwyllt. Mae angen gwella’r traffig o amgylch Casnewydd, ond byddai’n well i Gymru a’r amgylchedd pe bai Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus yn lle hynny. Os ydym eisiau gwarchod yr amgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, mae angen i ni feddwl am opsiynau amgen yn lle traffyrdd llygredig mawr. Mae rheolydd a chyrff cynghori y Cynulliad ei hun, Cyfoeth Naturiol Cymru, yn gwrthwynebu’r cynlluniau hyn.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Dwyrain Casnewydd

·         Dwyrain De Cymru